Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Neath Town

Loading Map
NPRN268078
Cyfeirnod MapSS79NW
Cyfeirnod GridSS7400097000
Awdurdod Unedol (Lleol)Castell-nedd Port Talbot
Hen SirGlamorgan
CymunedDyffryn Clydach
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Daw enw'r dref o'i safle strategol ar y man isaf y gellir croesi Afon Nedd. Oherwydd bod yr afon mor fas a hawdd ei chroesi yno, sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o'r enw Nidum yno c. 75OC a daliwyd i'w defnyddio nes i luoedd Rhufain adael yn y bedwaredd ganrif.

Sefydlwyd dau gastell yn yr ardal yn y ddeuddegfed ganrif, un gan Richard de Glanville a sefydlodd Abaty Nedd hefyd yn 1130. Datblygodd tref a marchnad Castell Nedd yn gyflym o amgylch y castell a'r abaty, ond fe'i hysbeiliwyd yn gyson gan Arglwyddi Cymreig Afan. Erbyn y bedwaredd ganrif at ddeg roedd tref gaerog gref yno, fodd bynnag, a masnach yn ffynnu.

Dechreuodd Castell Nedd ddatblygu diwydiannau trwm yn gymharol gynnar, ac yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd glo'n cael ei gloddio a chopr yn cael ei fwyndoddi yno. Diwydiannwyd y dref yn drwm yn y ddeunawfed ganrif gyda thwf y gweithfeydd haearn, dur a thunplat, ac erbyn 1795 roedd Camlas Castell Nedd wedi ei chwblhau, a chamlas Abertawe i Aberdulais yn 1824. Gyda dyfodiad dwy reilffordd yn 1850 ac 1851 datblygwyd cysylltiad rhagorol rhwng y dref a safleoedd cynhyrchu diwydiannol yn uwch i fyny'r cwm gan ei gwneud yn ganolfan ddiwydiannol o bwys.

Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, roedd teithiwyr a ddeuai i Gastell Nedd yn edrych gyda chymysgedd o arswyd a rhyfeddod ar yr olygfa a welent ar draws y cwm. Roedd harddwch natur ac adfeilion abaty yn un pen i'r cwm yn cyferbynnu'n llwyr a'r mwg a'r fflamau a saethai i'r awyr y pen arall. I deithiwr Rhamantaidd roedd edrych ar Gastell Nedd yn y nos yn sicr fel camu i mewn i ddarlun o'r isfyd.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Neath by Franz Br?mel from 'Nordland-Fahrten. Zweite Abteilung' (c. 1870s). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.