Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Pontarfynach

Loading Map
NPRN268092
Cyfeirnod MapSN77NW
Cyfeirnod GridSN7371976896
Awdurdod Unedol (Lleol)Ceredigion
Hen SirCeredigion
CymunedPontarfynach
Math O SaflePENTREF
CyfnodCyfredinol
Disgrifiad
Daw enw'r pentref bychan hwn gyda'i raeadr trochionog o'r isaf o dair pont dros yr afon Mynach, a adeiladwyd fesul cam un ar ben y llall. Dywed chwedl leol mai'r Diafol a adeiladodd y bont hon mewn un noson, ar ol taro bargen gyda hen wraig yr oedd ei buwch werthfawr wedi ei dal ar ochr arall yr afon. Yn dal am gael ei hanifail yn ol, roedd yn rhaid iddo addo i'r Diafol y rhoddai'r enaid byw cyntaf i groesi'r bont iddo. Fodd bynnag, fe wnaeth y ddynes ei dwyllo drwy daflu torth o fara dros y bont a gadael i'w chi redeg ar ei hol. Roedd ar y Diafol gymaint o gywilydd fel na ddangosodd ei wyneb wedyn - neu dyna'r stori beth bynnag.

Mae'r bont gyntaf, sy'n fychan ac wedi'i hadeiladu o gerrig, bron yn sicr yn dyddio o'r oesoedd canol, ac efallai iddi gael ei hadeiladu gan fynaich o abaty Sistersaidd Ystrad Fflur gerllaw. Adeiladwyd yr ail bont dros hon yn 1753, ac ychwanegwyd parapetau haearn ati yn 1814. Yn 1901 y codwyd y drydedd bont a'r olaf. Pont o rwyllwaith haearn yw hon ac mae'r ffordd fodern yn mynd drosti. Bob tro roedd y ffordd yn cael ei lledu, ei lefelau a'i gwella, gan adlewyrchu'r gwelliant graddol yn isadeiladd Ceredigion dros y canrifoedd diwethaf.

Yn hanesyddol, roedd y bont ar y briffordd rhwng Llangurig ac Aberystwyth, gan alluogi twristiaid i fedru mynd at y rhaeadrau a'r enwog 'Bowlen y Diafol' yn rhwydd. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd twristiaid a oedd yn chwilio am dirweddau gwyllt Cymru yn heidio yno. O ganlyniad, adeiladodd perchennog y tir o amgylch, Thomas Johnes, luest hela ar fin y ffordd yn 1787. Yn 1839 helaethwyd y lluest gan ei pherchennog newydd, Syr Henry Houghton, a'i hailagor fel Gwesty Hafod Arms, a enwyd ar ol ystad gyfagos Hafod Uchdryd.

Ychydig flynyddoedd ar ol i'r gwesty agor ei ddrysau, arhosodd Carl Carus a Friedrich August II, Brenin Sacsoni, yno am ychydig ynghanol y glaw yn ystod eu taith o Aberhonddu i Aberystwyth. Ar ol sychu eu dillad a chynhesu eu cyrff blinedig wrth danllwyth o dan yn y parlwr, aethant i lawr i gael golwg ar yr hafn ryfeddol dan y pontydd. Heddiw, does dim rhaid i dwrisitiaid ddibynnu ar goets fawr wlyb a sgyrtiog i'w cludo yno. Yn hytrach, gallant fwynhau taith at y pontydd a'r rhaeadr ar Reilffordd Dyffryn Rheidol o Aberystwyth, a agorodd yn 1902.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.