Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

ST WINIFRIDE'S WELL AND WELL CHAPEL;ST WINEFRIDE'S; ST. WINIFRED'S

Manylion y Safle



NPRN 32328

Cyfeirnod Map SJ17NE

Cyfeirnod Grid SJ18517627

Awdurdod Lleol Sir y Fflint 

Hen Sir Fflint

Cymuned Holywell

Math o Safle CAPEL FFYNNON

Cyfnod Canoloesol

Disgrifiad o´r Safle Mae chwedl Santes Gwenfrewi yn adrodd hanes uchelwraig Gymreig o'r seithfed ganrif a benderfynodd gysegru ei bywyd i wasanaeth yr Eglwys Gristnogol a mynd yn lleian. Ond roedd tywysog lleol, Caradog, ei heisiau yn gariad ac, wedi ei gynddeiriogi gan ei phenderfyniad, fe wnaeth dorri ei phen i ffwrdd a roliodd hwnnw i lawr gallt. Roedd ei hewythr, Sant Beuno, yn dyst i'w llofruddiaeth a rhuthrodd i'r lle roedd pen Gwenfewi'n gorwedd a'i gario at ei chorff difywyd. Gan alw am gymorth o'r nefoedd, llwyddodd Beuno i atgyfodi Gwenfrewi a rhoi ei phen yn ôl ar ei chorff, ond syrthiodd Caradog yn farw yn y fan a'r lle ac fe'i llyncwyd gan y ddaear. Fel arwydd o'r wyrth, bu llinell fain goch o amgylch gwddf Gwenfrewi weddill ei hoes. Arhosodd yn Nhreffynnon am wyth mlynedd cyn ymneilltuo i leiandy arall yng Ngwytherin, uwchlaw Dyffryn Conwy. Mae dau ddiwrnod wedi'u cysegru iddynt, sef diwrnod ei hatgyfodiad gwyrthiol a diwrnod ei marwolaeth.

Mae'r ffynnon yn tarddu o'r fan lle dywedir i'w phen a dorrwyd ddod i orffwys a, diolch i nodweddion iachusol honedig y dyfroedd, fe'i hystyrir yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Roedd Ffynnon Gwenfrewi yn gyrchfan pererindod mor gynnar â'r ddeuddegfed ganrif. Yn y bymthegfed ganrif, adeiladodd Margaret Beaufort gapel wrth ochr y ffynnon, yn arwain at bwll ymdrochi i bererinion. Yn ystod Diwygiad Protestannaidd y 1530au fe wnaeth diwygwyr Anglicanaidd ddinistrio llawer o gysegrfeydd a chreiriau Catholig ar draws Prydain; fodd bynnag, parhawyd i gyrchu at Ffynnon Gwenfrewi ar hyd y canrifoedd er gwaethaf erledigaeth a gwrthwynebiad y wladwriaeth. Yn y ddeunawfed ganrif, dechreuodd poblogaeth Gatholig ardal Treffynnon gynyddu hyd yn oed.

Erbyn dyfodiad twristiaeth fodern yn y cyfnod Rhamantaidd, roedd teithwyr yn ystyried y capel a'r ffynnon sanctaidd fel crair hynod o'r cyfnod Catholig er bod Cymru'n gadarn ei Phrotestaniaeth erbyn hynny. Heddiw, gofelir am Ffynnon a Chapel Gwenfrewi ar y cyd gan Cadw a'r Eglwys Babyddol ac maent, ynghyd â'r amgueddfa gerllaw, yn agored yn ddyddiol.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein