Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Capel Curig, Caernarfonshire

Loading Map
NPRN33012
Cyfeirnod MapSH75NW
Cyfeirnod GridSH7292857712
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedCapel Curig
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Mae Capel Curig ar ffordd goets fawr hanesyddol Thomas Telford, yr A5 erbyn hyn. Saif y pentref bychan mewn dyffryn rhwng copa Crimpiau i'r gogledd-ddwyrain a Llynnau Mymbyr i'r de-orllewin. Nid yw gwreiddiau'r pentref yn gwbl glir, ond mae cloddiadau archeolegol wedi dod ar draws brics a sment Rhufeinig, sy'n dystiolaeth efallai fod garsiwn fechan wedi bod yno unwaith ar lannau afon Llugwy. Mae'r enw Capel Curig yn deillio o'r eglwys fechan a sefydlwyd yma yn y chweched ganrif gan Sant Curig, esgob Celtaidd. Heddiw mae'r eglwys hon wedi'i chysegru i'r Santes Julitta.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, adeiladodd Richard Pennant y briffordd gyntaf rhwng Bangor a Chapel Curig ac, yn 1801, adeiladodd Dafarn Capel Curig, a elwir heddiw yn Plas y Brenin. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ffordd newydd Thomas Telford, a oedd yn cysylltu Caergybi a Llundain, Gapel Curig, ac o 1808 roedd ffrwd gyson o goetsys mawr yn dod a llawer o dwristiaid i'r dyffryn.

Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y pentref, gerllaw dau lyn cysylltiedig ac ynghanol mynyddoedd Eryri, yn denu pysgotwyr, arlunwyr a mynyddwyr fel ei gilydd. Yn ystod y 1850au, cyfareddwyd y newyddiadurwr a'r awdur llyfrau taith o'r Almaen, Julius von Rodenberg, gan yr obsesiwn Prydeinig o bysgota am frithyll ac eogiaid ym mhob math o dywydd wrth iddo sylwi ar ei gyd-dwristiaid yn wlyb socian ger Llynnau Mymbyr. At ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dychwelodd yr arlunydd Eidalaidd, Onorato Carlandi, i Gapel Curig dro ar ol tro i ddarlunio'r tirwedd ac i wylio ei gyd-arlunwyr yn cerdded o gwmpas yr ardal gyda chynfasau mawr ar eu cefnau.

Mae Capel Curig yn gartref i gymuned Gymraeg ei hiaith at ei gilydd ac yn parhau'n gyrchfan arbennig i ddringwyr a chaiacwyr.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Capel Curig by Christian August Gottlieb G?de from 'England, Wales, Irland und Schottland' (1802). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.