Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Flint; Fflint

Loading Map
NPRN33106
Cyfeirnod MapSJ27SW
Cyfeirnod GridSJ2425872963
Awdurdod Unedol (Lleol)Flintshire
Hen SirSir y Fflint
CymunedFlint
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Sefydlwyd y dref fechan hon yn ystod blynyddoedd concwest Edward I o Gymru yn y 1280au. Y castell carreg, a adeiladwyd yma ar orchymyn Edward I, oedd y gyntaf o'r ceyrydd a sefydlwyd ar hyd arfordir Cymru gyda'r bwriad o wastrodi'r brodorion Cymreig. Yno, yn Awst 1399, yr ymostyngodd Richard II i Henry Bolingbroke, a ddaeth yn fuan wedyn yn frenin Harri'r IV, ar yr amod yr arbedid ei fywyd ar ol iddo ildio'r orsedd.

Daeth llawer o incwm Y Fflint a'r ardal gyfagos o gloddio am blwm a'i brosesu rhwng diwedd yr oesoedd canol a dechrau'r cyfnod Fictoraidd, pan gaeodd yr olaf o'r gweithfeydd smeltio. Bryd hynny datblygodd canghennau eraill o ddiwydiant trwm, yn cynnwys cloddio am lo, a chynhyrchu papur a chemegau.

Felly, roedd llawer o'r ymwelwyr rhyngwladol yn y dref nid fel pobl ar wyliau ond am resymau proffesiynol. Wrth deithio ar droed drwy siroedd Gogledd Cymru yn 1846, disgrifiwyd Y Fflint gan Franz von Loher fel tref arfordirol a oedd yn gartref i forwyr anturus a hefyd i bobl a enillai fywoliaeth lai peryglus drwy gasglu cocos ar drai.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPAT - Clwyd-Powys Archaeological Trust ReportsClwyd-Powys Archaeological Trust Report No 1470 entitled: 'Roman Deeside, Flintshire: Archaeological Assessment' prepared by Nigel Jones 2017.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1504 "Land to the rear of 36-38 Church Street, Flint, Archaeological Evaluation and Desk Top Study Report" produced by Kate Pitt, October 2016.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Flint by Franz von L?her from 'Wanderung durch Nordwales' (1846). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfCPAT - Clwyd-Powys Archaeological Trust ReportsClwyd-Powys Archaeological Trust Report relating to Historic Settlements in Flintshire. CPAT Report No. 1142. Produced for Cadw. Paper and digital copy.
application/vnd.ms-excelAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchive metadata form relating to archaeological work at land to the rear of 36-38 Church Street, Flint carried out by Archaeology Wales, 2016. Project No 2459.