Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Rhyl

Loading Map
NPRN33112
Cyfeirnod MapSJ08SW
Cyfeirnod GridSJ0086581430
Awdurdod Unedol (Lleol)Denbighshire
Hen SirSir y Fflint
CymunedRhyl
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Tref glan mor Fictoraidd ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yw Y Rhyl. Gyda thraeth hir, tywodlyd a lleoliad delfrydol oddi ar ffordd arfordirol yr A5 drwy Ogledd Cymru, datblygodd Y Rhyl fel tref newydd yn y 1830au a'r 1840au, i raddau helaeth o ganlyniad i'r cynnydd mewn twristiaeth ymdrochi mor. Oherwydd ei hagosrwydd at Lerpwl a Manceinion daeth yn boblogaidd yn fuan fel cyrchfan i dwristiaid o ogledd-orllewin Lloegr, tra denwyd ymwelwyr o Lundain yno gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1848. Tyfodd y dref yn gyflym gan ddarparu'r holl gyfleusterau a ddisgwylid mewn tref glan mor, yn cynnwys pier 2,115 troedfedd o hyd, llyn artiffisial i gychod, ffair bleser a rheilffordd fechan.

Yn ol arweinlyfr a ysgrifennwyd gan Mark Luke Louis, ymfudwr o Ffrainc, roedd gan Y Rhyl yn 1854 un o'r gorsafoedd tren mwyaf modern, y baddonau, llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen gorau, yn ogystal a gwestai hyfryd ar hyd y promenad. Yn ogystal a chanmol y cyfleusterau gwyliau modern hyn, tynnodd Ffrancwr arall, Alphonse Esquiros, sylw at fawredd mynyddoedd Eryri yn codi yn y cefndir tu ol i'r dref arfordirol hon.

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd enw da Y Rhyl fel cyrchfan wyliau o safon wedi mynd ar led, a galwai llongau pleser gyda theithwyr o Lerpwl a Sir Gaerhirfryn yno'n rheolaidd. Yn yr ugeinfed ganrif denodd y dref sylw drachefn gyda'r gwasanaeth hofrenfad cyntaf i deithwyr. Mae'n amlwg i'r Rhyl fod yn boblogaidd gydag awduron Ffrengig, oherwydd fe wnaeth un arall, D'Arcis, ganmol cynllun modern y dref, ei hinsawdd iach a'r dewis helaeth o atyniadau poblogaidd oedd yno am brisiau rhesymol. Dywedodd ei bod yn gyrchfan ddelfrydol i deuluoedd ac yn baradwys i blant, gyda'r lle'n dod yn fwrlwm o fywyd bob haf. Roedd yn arbennig o hoff o'r traethau hardd a diogel, y cerddorfeydd yn chwarae ar draws y dref a'r sioeau pypedau niferus ar gyfer y plant.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPATP - Clwyd-Powys Archaeological Trust Project ArchivesCPAT project 2292: report no. 1582 entitled 'East Rhyl Coastal Defence Scheme. Archaeological Watching Brief' prepared by Ian Grant, 2018.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel entitled Pyllau Nofio Swimming Pools, produced by RCAHMW 2012.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of visit to Rhyl by Alphonse Esquiros, from 'L'Angleterre & la vie anglaise:Le sud du Pays de Galles & l'industrie du fer' (c.1850s).Text available in Welsh, English, French & German. Produced through European Travellers to Wales project.
application/pdfCPATP - Clwyd-Powys Archaeological Trust Project ArchivesReport no. 1621 relating to CPAT Project 2335: Desk-based Assessment of Central Rhyl Coastal Flood Defence Scheme, dated 2018.
application/pdfAENT - Archaeological Reports/Evaluations (non Trust)Report from a pre-dredge survey and archaeological monitoring carried out by York Archaeology and MSDS Marine in February 2023.