Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Corwen

Loading Map
NPRN33153
Cyfeirnod MapSJ04SE
Cyfeirnod GridSJ0791043470
Awdurdod Unedol (Lleol)Denbighshire
Hen SirMerioneth
CymunedCynwyd
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Tref fechan yn Sir Ddinbych yw Corwen ac mae ar yr A5, ffordd bost bwysig Thomas Telford rhwng Caergybi a Llundain. Oherwydd ei safle cyfleus yn nyffryn y Ddyfrdwy, datblygodd Corwen yn ganolfan bwysig i'r porthmyn gwartheg erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond cynyddodd mewn pwysigrwydd ar ol i ffordd Telford hwyluso teithio ar y goets fawr, ac yn arbennig ar ol i Reilffordd y Great Western gyrraedd yn 1864.

Fel y gwelir oddi wrth y cerflun ysblennydd ohono ar sgwar y farchnad, mae gan y dref a'r gymdogaeth gysylltiadau cryf ag Owain Glynd'r, a ddechreuodd ei wrthryfel yn erbyn coron Lloegr o'i gartref yn Glyndyfrdwy gerllaw yn 1400. Fodd bynnag, dinistriwyd y maenordy gan filwyr y Tywysog Harri yn 1403. Yn ol coel gwerin lleol, arferai Glynd'r ddod yn gyson i'r offeren yn Eglwys y Seintiau Mael a Sulien yng Nghorwen ac mae ol ei ddagr i'w weld o hyd ar y lintel garreg uwchben drws yn yr eglwys. Trigai'r awdur John Cowper Powys yno yn yr ugeinfed ganrif ac ysgrifennodd ei nofel Owen Glendower (1941) am Wrthryfel Glynd'r.

Mae'r dref wledig hon yn ganolfan wych ar gyfer cerdded yr ardal gyfagos ac mae rheilffordd fechan yn ei chysylltu a thref Llangollen.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPAT - Clwyd-Powys Archaeological Trust ReportsClwyd-Powys Archaeological Trust Report No 1257 entitled: 'Historic settlements in Denbighshire' prepared by R J Silvester, C H R Martin and S E Watson 2014.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Corwen by Julius Rodenberg from 'Ein Herbst in Wales' (1856). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.