Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Milford Haven

Loading Map
NPRN33203
Cyfeirnod MapSM90NW
Cyfeirnod GridSM9030305971
Awdurdod Unedol (Lleol)Sir Benfro
Hen SirSir Benfro
CymunedMilford Haven
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Tref gymharol newydd yw Aberdaugleddau, wedi ei henwi ar ol yr afon sy'n llifo drwyddi. Cysylltir yr harbwr naturiol, a ddefnyddiwyd ers dechrau'r oesoedd canol, yn arbennig a glaniad Harri Tudur yn 1485 ac oddi yno y cychwynnodd Oliver Cromwell pan oresgynnodd Iwerddon yn 1649. Fodd bynnag, mor ddiweddar a 1790 y sefydlwyd tref a harbwr pwrpasol Aberdaugleddau gan William Hamilton, a anogodd deuluoedd o bysgotwyr morfilod o Nantucket i ddatblygu llynges yno. Yn 1796 datblygwyd iard longau filwrol yno i'r Llynges Frenhinol ond, ar ol i honno symud i Ddoc Penfro yn 1814, fe'i cymerwyd drosodd gan fasnachwyr a ailddatblygodd y safle'n iard longau fasnachol.

Er gwaethaf cysylltiad hanesyddol y dref a theuluoedd Cymreig uchelwrol Penfro a Thudur, saif yn yr ardal y cyfeirir ati'n arferol fel 'Lloegr Fach tu hwnt i Gymru'. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, anogwyd nifer fawr o Fflemingiaid i ymgartrefu yno a disodli'r boblogaeth Gymreig. Byth ers hynny, mae'r cymunedau Cymraeg a Saesneg eu hiaith wedi aros yn amlwg ar wahan yn ddiwylliannol ac ieithyddol.

Oherwydd ei sefydlu'n gymharol ddiweddar a'i chysylltiadau cryf a morwriaeth fasnachol, nid oedd tref Aberdaugleddau yn cael ei hystyried yn draddodiadol yn gyrchfan bictiwresg ymysg twristiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, roedd safle'r dref ar arfordir hardd Sir Benfro, nodweddion naturiol yr hafan a rhwyddineb teithio oddi yno i'r wlad gyfagos, yn cael eu canmol yn gyson gan y rhai a laniai yno. Yn 1894 disgrifiodd Eugenie Rosenberger sut y cafodd Aberdaugleddau hwb economaidd bychan yn dilyn un storm arbennig o ddinistriol. Gwariodd llawer o longwyr eu harian yn helaeth yn y tafarnau oherwydd bu'n rhaid i'w llongau gael eu trwsio'n sylweddol ac, o ganlyniad, bu'n rhaid iddynt hwythau aros ar y lan yn llawer hwy nag roeddent wedi'i fwriadu'n wreiddiol.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Milford Haven by Am?d?e Pichot from 'L'Irlande et le pays de Galles' (1844). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.