Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Maes Gwenllian, site of Battle, Mynyddygarreg

Loading Map
NPRN402324
Cyfeirnod MapSN40NW
Cyfeirnod GridSN4252008830
Awdurdod Unedol (Lleol)Carmarthenshire
Hen SirSir Gaerfyrddin
CymunedKidwelly
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o archwilio brwydr Maes Gwenllian. Mae adroddiadau manwl o'r archwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil ddogfennol a hanesyddol (Border Archaeology), a gwaith maes heb fod yn ymyrryd ac a oedd yn ymyrryd (Archaeoleg Cymru).

Dylid edrych ar frwydr Maes Gwenllian yng nghyd-destun chwalu tra-arglwyddiaeth yr Eingl-Normaniaid ar draws llawer o ganolbarth a de Cymru yn dilyn marwolaeth Harri I ym mis Rhagfyr 1135. Mae hefyd yn cynrychioli yr unig frwydr fawr yng Nghymru yn yr oesoedd canol y mae tystiolaeth ddogfennol i un o'r ddwy fyddin a oedd yn wynebu?i gilydd fod dan reolaeth menyw. Roedd Gwenllian yn wraig i Gruffydd ap Rhys, tywysog Cymreig Deheubarth ac yn ferch i Gruffydd ap Cynan tywysog Gwynedd.

Mae'r unig adroddiad o'r digwyddiad sy?n agos at fod yn gyfoes gan Gerallt Gymro yn ei Itinerarium Kambriae, a ysgrifennwyd oddeutu hanner can mlynedd wedi'r digwyddiad:

Cyfieithiad: Fe wnaethom groesi'r Llwchwr a dwy ffrwd y Gwendraeth, a dod i Gastell Cydweli. Yn yr ardal hon, yn dilyn marwolaeth Harri I, Brenin y Saeson, ac ar adeg pan oedd ei g'r Gruffydd ap Rhys, Tywysog De Cymru, wedi mynd i Ogledd Cymru i geisio milwyr ychwanegol, y marchogodd y Dywysoges Gwenllian ar flaen byddin, fel rhyw ail Penthesilea, Brenhines yr Amasoniaid. Fe?i trechwyd mewn brwydr gan Maurice de Londres, a oedd yn terynasu dros y rhanbarth ar y pryd a chan Geoffrey, cwnstabl yr Esgob. Yr oedd hi mor sicr o fuddugoliaeth fel ei bod wedi dod a?i dau fab gyda hi. Lladdwyd un ohonynt, o'r enw Morgan, a chipiwyd y llall o'r enw Maelgwn. Torrwyd pen Gwenllian ei hun, a hyn hefyd fu ffawd llawer o?i dilynwyr (Thorpe, 137).

Yn draddodiadol, lleoliad y frwydr oedd ardal eang o gwmpas Fferm Maes Gwenllian (SN 4270 0867), sydd oddeutu 2km i'r gogledd-ddwyrain o Gastell Cydweli. Ceir y cyfeiriad pendant cyntaf at yr enw lle `Maes Gwenllian? mewn gweithred ddyddiedig Hydref 1432 (Border Archaeology). Cynhaliwyd arolwg gan ddefnyddio synwyryddion metel (metal detector) yn 2012 dros ran o'r ardal hon a darganfuwyd llawer iawn o eitemau haearnaidd modern yn ogystal a swm rhesymol o eitemau haearnaidd ychydig yn h?n, ond ni ddarganfuwyd dim a oedd yn dod o gyfnod y frwydr (Archaeoleg Cymru).

Mae rhestr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW) (1917, rhif. 156; NPRN 421808) yn cyfeirio at gloddwaith isel siap hanner cylch, ar ochr ogleddol cae i'r gogledd orllewin o Fferm Maes Gwenllian y dywedir yn draddodiadol ei fod yn nodi man claddu Gwenllian a?i mab. Nid yw hwn bellach i?w weld ar y tir (Archaeoleg Cymru).

Said cofeb i'r frwydr y tu allan i fynedfa Castell Cydweli (SN 4086 0697; NPRN 419373)

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1136 Battle of Maes Gwenllian, Mynyddygarreg, Carmarthenshire: Battlefield Survey (2012).
Border Archaeology, Maes Gwenllian (1136): Documentary and Historical Research Report (2009).
Thorpe, Lewis (trans.), Gerald of Wales The Journey through Wales and The Description of Wales (Penguin, Harmondsworth, 1978).
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/vnd.ms-excelAWP_309_01_01 - Archaeology Wales Project ArchivesList of finds from Maes Gwenllian battlefield. Finds discovered during the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/pdfAWP_309_01_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Maes Gwenllian battlefield, produced in March 2012. Report no. 1050. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.