Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Campston Hill;Mynydd Camstwn;Battle of Campstone Hill, near Llangattock Lingoed

Loading Map
NPRN402328
Cyfeirnod MapSO32SE
Cyfeirnod GridSO3620022400
Awdurdod Unedol (Lleol)Sir Fynwy
Hen SirSir Fynwy
CymunedGrosmont
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I daflu goleuni ar ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, comisiynwyd ymchwil hanesyddol a dogfennol ar frwydr Campston Hill, ac mae'r adroddiad ymchwil a ddeilliodd o hynny yn darparu trosolwg manwl (Border Archaeology).

Yr unig ffynhonnell i gyfeirio?n uniongyrchol at y frwydr yw Blwyddnodau Owain Glynd'r:

Yn yr flwyddon hono I bv y lladdfa ar Gymrv ar Vynydd Kamstwn (Livingstone a Bollard 174-5).

Cyfieithiad: Yn yr un flwyddyn bu lladdfa ar y Cymry ar Campston Hill (Livingstone a Bollard 174-5).

Yn seiliedig ar y dystiolaeth ddogfennol gyfyngedig ac enwau lleoedd, mae?n anodd sefydlu lleoliad manwl ar gyfer y frwydr. Mae wedi?i farcio ar fap modern 1:25000 yr Arolwg Ordnans yn SO 362 224, sef cae i'r de-ddwyrain o lon annosbarthedig yn arwain o Grosmont i Lanfihangel Crucornau, sy?n rhan o lwybr wedi?i hen sefydlu o Henffordd i'r Fenni. Mae'r dystiolaeth ar gyfer y lleoliad hwn yn aneglur.

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Border Archaeology, Campston Hill (1404): Documentary and Historical Research Report (2009).
Livingston, Michael and Bollard, John K. (eds) Owain Glynd'r A Casebook (Liverpool University Press, 2013).