Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Moel-y-Don: site of Battle, Menai Straits, near Llanedwen

Loading Map
NPRN404319
Cyfeirnod MapSH56NW
Cyfeirnod GridSH5180067800
Awdurdod Unedol (Lleol)Ynys Môn
Hen SirAnglesey
CymunedLlanddaniel Fab
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, comisiynwyd ymchwil ddogfennol a hanesyddol ar frwydr Pont Cychod 1282 ac mae'r adroddiad ymchwil a gafwyd o ganlyniad yn rhoi golwg fanwl ar y digwyddiad (Chapman).

Roedd y Bont Gychod yn bont?n (pont gychod) o Ynys Mon, lle yr oedd y Brenin Iorwerth I wedi sefydlu canolfan, a?i bwriad oedd sicrhau troedle ar y tir mawr ar gyfer cam terfynol goresgyniad a choncwest Gwynedd gan Iorwerth I. Canfu milwyr Iorwerth, dan arweiniad Luke de Tany, eu hunain yn sownd ar draeth y tir mawr oherwydd fod y llanw?n troi, a chawsant un ai eu boddi wrth geisio dianc neu eu lladd gan luoedd y Cymry fel y nodir ym Mheniarth MS.20 fersiwn Brut y Tywysogyon:

Ac a vanassant goresgin arvon ac ena y gwanaeth pwyd y bont ar venei ac y torres y bont o tra llwith ac y bodes aneirif or season ac ereill a las (Jones, 228)

Cyfieithiad: Ac roeddynt yn dymuno cael meddiant ar Arfon. Ac yna lluniwyd pont ar draws y Fenai ; ond torrodd y bont dan bwysau gormodol, a boddwyd Saeson dirifedi a lladdwyd eraill (Jones, 120)

Hon oedd y grasfa fwyaf sylweddol a ddioddefodd y Saeson yn rhyfel goncro olaf Iorwerth I yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

Yr enw traddodiadol a chamarweiniol ar y digwyddiad hwn fu `Brwydr Moel y Don?, SH 5183 6777, man ar lan Ynys Mon lle mae'r afon yn culhau at bwynt a ddefnyddiwyd fel croesfan fferi gydol yr Oesoedd Canol. Mae ail-archwiliad diweddar yn awgrymu yr adeiladwyd y bont ymhellach i'r gogledd ac yn nes at ganolfan weithredu Iorwerth yn Llanfaes ym Mon. Gwnaed dau awgrym ? safle yn agos i Lanfaes yn ymestyn tua'r tir mawr ger Abergwyngregyn ger Traeth Lafan (SH 634 750) neu?n agos i Fangor (SH 582 735) lle y sefydlwyd cadarnle caerog yn ddiweddarach, ar yr ail gynnig.

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Chapman, A., Bridge of Boats 6 November 1282: Documentary and Historical Research Report (2013).
Jones, Thomas (gol.), Brut y Tywysogyon: Peniarth MS. 20 (Caerdydd, Gwasg Prifysgol, Cymru, 1941).
Jones, Thomas (trans.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes Peniarth MS. 20 Version (Cardiff, University of Wales Press, 1952)