Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Llech-y-Crau; Battle at Llechryd Bridge, Llechryd

Loading Map
NPRN404478
Cyfeirnod MapSN24SW
Cyfeirnod GridSN2180043600
Awdurdod Unedol (Lleol)Ceredigion
Hen SirCeredigion
CymunedLlangoedmor
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Mae'r Cottonian Chronicle am y flwyddyn 1088 yn nodi:

Res filius teudur de regno suo expellitur a filiis bledit id est madauc . cadugaun . et ryrid . Ipse uero yberniam adiit . et classe accepta reuertitur in britanniam . Bellum penlethereu geritur in quo duo filii bledid id est madauc et ririd ceciderunt et Res uictor fuit(Gough-Cooper, c409.1?2).

Cyfieithiad: Gyrrwyd Rhys ap Tewdwr o?i deyrnas gan feibion Bleddyn, sef Madog, Cadwgan a Rhiryd. Fodd bynnag, aeth Rhys i Iwerddon a dychwelyd gyda llynges i Brydain. Ymladdwyd brwydr Penletheru, pryd y lladdwyd dau fab Bleddyn, sef Madog a Rhiryd, a bu Rhys yn fuddugol (Remfry, 211).

Mae'r Brutiau yn gollwng y Pen- o'r enw ac yn rhoi sawl amrywiad ar yr enw, Llech-y Kreu, Llychcrei a Llechryt. Mae Archif Melville Richards yn cynnig dau bosibilrwydd ar gyfer yr enw gwreiddiol: Penllethr yng Ngheredigion (SN 5927 6283) a Phenllethrychen, a elwir bellach yn Llettyyrychen-Fawr yn Sir Gaerfyrddin (SN 459 017). Mae'r safle yn Sir Gaerfyrddin ger yr arfordir ac efallai mai dyma'r lleoliad mwyaf addas ar gyfer brwydr yn cynnwys byddin a oedd wedi cyrraedd fel rhan o lynges. Nid oes modd cadarnhau lleoliad y frwydr.

CBHC, Rhagfyr 2016

Llyfryddiaeth
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Cottonian Chronicle: Annales Cambriae, The C Text from London, British Library, Cotton MS Domitian A. i, ff. 138r?155r, online edition.
Remfry, Paul M. Annales Cambriae: A Translation of Harleian 3859: PRO E. 164/1: Cottonian Domitian, A1: Exeter Cathedral Library MS.3514 and MS Exchequer DB Neath, PRO E. 164/1 (Castle Studies Research, 2007).