DisgrifiadMae'r Cottonian Chronicle am y flwyddyn 954 yn nodi:
Bellum iuxta nant conuy inter filios idwal et filios howel. Edywin filius howel moritur. Anaraud filius Guriat occiditur (Gough-Cooper, c278.1-3)
Cyfieithiad: Brwydr ger Nant Conwy rhwng meibion Idwal a meibion Hywel. Edwin mab Hywel yn marw. Anarawd fab Gwriad yn cael ei ladd.
Mae'r Breviate Chronicle yn enwi'r frwydr yn `Gurguist? (Gough-Cooper, b976.1). Mae fersiwn Peniarth 20 o Frut y Tywysogyon yn ychwanegu y digwyddodd y frwydr `yn y lle a elwir yn Gwrgystu: brwydr Conwy Hirfawr? (Jones, 1952, 7), ac mae fersiwn Llyfr Coch Hergest o Frut y Tywysogyon yn ei disgrifio fel `brwydr y Conwy yn Llan-rwst? (Jones, 1955, 13).
Meibion Idwal oedd Iago ac Ieuaf, rheolwyr Gwynedd a oedd wedi ymladd yn flaenorol yn Nant Carno (951) a Dyfed (953).
CBHC, Rhagfyr 2016
Llyfryddiaeth
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Breviate Chronicle: Annales Cambriae, The B Text from London, National Archives, MS E164/1, pp. 2?26, online edition.
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Cottonian Chronicle: Annales Cambriae, The C Text from London, British Library, Cotton MS Domitian A. i, ff. 138r?155r, online edition.
Jones, Thomas (trans.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes Peniarth MS. 20 Version (Cardiff, University of Wales Press, 1952).
Jones, Thomas (ed. and trans), Brut y Tywysogyon or the Chronicle of the Princes: Red Book of Hergest Version (Cardiff, University of Wales Press, 1955).