Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Eryri

Loading Map
NPRN409116
Cyfeirnod MapSH65SW
Cyfeirnod GridSH6080054500
Awdurdod Unedol (Lleol)Gwynedd
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedBetws Garmon
Math O SafleTIRWEDD
CyfnodCyfredinol
Disgrifiad
Yr Wyddfa, sy'n 1085 metr o uchder, yw mynydd uchaf Cymru. Yn ol chwedl, claddwyd y cawr Cymreig Rhitta dan y garnedd ar y copa ar ol i'r Brenin Arthur ei ladd. Y botanegydd Thomas Johnson oedd y cyntaf a gofnodwyd i ddringo i gopa'r Wyddfa, a hynny yn 1639, a gwelwyd nifer gynyddol o ymwelwyr yn dod i'r mynydd gyda chynnydd twristiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Lluniwyd llwybrau newydd i fyny'r mynydd ac, o'r chwe llwybr poblogaidd sydd mewn bodolaeth heddiw, yr hawsaf ond yr hiraf hefyd yw Llwybr Llanberis. Y ddringfa fwyaf ysblennydd i fyny'r mynydd yw Pedol yr Wyddfa, sy'n mynd ar hyd y Grib Goch gul a pheryglus ac yna i gopa'r Wyddfa, cyn croesi clogwyni 300m o uchder y Lliwedd. Yno y bu George Mallory yn ymarfer at ei daith anffodus i Everest yn 1924.

Yn nyddiau cynnar twristiaeth fodern roedd tywyswyr lleol yn cynnig eu gwasanaeth ac, am dal ychwanegol, hefyd yn darparu ceffylau a mulod i gario'r lluddedig i ben eu taith. Sefydlwyd y cwt cyntaf i werthu lluniaeth ar y copa yn 1820. Er gwaetha'r tywydd anffafriol, mwynhaodd y Tywysog Puckler-Muskau botel bersonol o siampaen yno yn 1828. Yn ystod y degawd dilynol, sefydlodd dau westy cystadleuol o Lanberis eu llochesi eu hunain yno, o'r enw 'Roberts Hotel' a'r 'Dry Club'. Yn 1844, croesawodd y cyntaf Frenin Sacsoni yno, yng nghwmni ei feddyg, Carl Carus.

Tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa fel y gallai twristiaid deithio i fyny'r mynydd mewn unrhyw dywydd. Oherwydd y ddringfa serth aeth y cwmni i'r Swistir a phrynu pump o drenau stem arbennig a oedd yn gallu gwthio'r cerbydau teithwyr i fyny'r mynydd, yn hytrach na'u tynnu, a dod a hwy i lawr drachefn yn ddiogel drwy ddefnyddio eu brecs. Bu'r siwrnai gyntaf yn 1896, ond ar y daith yn ol i lawr o'r copa aeth y tren oddi ar y cledrau, mae'n debyg oherwydd iddo gael ei orlwytho. Wedi'r ddamwain hon, gosodwyd y system reilffordd rac a phiniwn llawer diogelach a'r system honno a ddefnyddir hyd heddiw.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPATP - Clwyd-Powys Archaeological Trust Project ArchivesReport no. 1649 relating to CPAT Project 2539: Desk-based Assessment of L52 Overhead Line Refurbishment, Maentwrog to Tryweryn, in an area that falls within the Snowdonia National Park.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Snowdon by Arthur d'Arcis from 'Voyage au nord du pays de Galles' (c. 1866). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.