Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

SNOWDONIA;ERYRI

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2019. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 409116

Cyfeirnod Map SH65SW

Cyfeirnod Grid SH608545

Awdurdod Lleol Gwynedd 

Hen Sir Caernarfon

Cymuned Betws Garmon

Math o Safle TIRWEDD

Dosbarth Cyffredinol HEB EI NEILLTUO

Cyfnod Cyffredinol

Disgrifiad o´r Safle Yr Wyddfa, sy'n 1085 metr o uchder, yw mynydd uchaf Cymru. Yn ôl chwedl, claddwyd y cawr Cymreig Rhitta dan y garnedd ar y copa ar ôl i'r Brenin Arthur ei ladd. Y botanegydd Thomas Johnson oedd y cyntaf a gofnodwyd i ddringo i gopa'r Wyddfa, a hynny yn 1639, a gwelwyd nifer gynyddol o ymwelwyr yn dod i'r mynydd gyda chynnydd twristiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Lluniwyd llwybrau newydd i fyny'r mynydd ac, o'r chwe llwybr poblogaidd sydd mewn bodolaeth heddiw, yr hawsaf ond yr hiraf hefyd yw Llwybr Llanberis. Y ddringfa fwyaf ysblennydd i fyny'r mynydd yw Pedol yr Wyddfa, sy'n mynd ar hyd y Grib Goch gul a pheryglus ac yna i gopa'r Wyddfa, cyn croesi clogwyni 300m o uchder y Lliwedd. Yno y bu George Mallory yn ymarfer at ei daith anffodus i Everest yn 1924.

Yn nyddiau cynnar twristiaeth fodern roedd tywyswyr lleol yn cynnig eu gwasanaeth ac, am dâl ychwanegol, hefyd yn darparu ceffylau a mulod i gario'r lluddedig i ben eu taith. Sefydlwyd y cwt cyntaf i werthu lluniaeth ar y copa yn 1820. Er gwaetha'r tywydd anffafriol, mwynhaodd y Tywysog Pückler-Muskau botel bersonol o siampaen yno yn 1828. Yn ystod y degawd dilynol, sefydlodd dau westy cystadleuol o Lanberis eu llochesi eu hunain yno, o'r enw 'Roberts Hotel' a'r 'Dry Club'. Yn 1844, croesawodd y cyntaf Frenin Sacsoni yno, yng nghwmni ei feddyg, Carl Carus.

Tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa fel y gallai twristiaid deithio i fyny'r mynydd mewn unrhyw dywydd. Oherwydd y ddringfa serth aeth y cwmni i'r Swistir a phrynu pump o drenau stêm arbennig a oedd yn gallu gwthio'r cerbydau teithwyr i fyny'r mynydd, yn hytrach na'u tynnu, a dod â hwy i lawr drachefn yn ddiogel drwy ddefnyddio eu brêcs. Bu'r siwrnai gyntaf yn 1896, ond ar y daith yn ôl i lawr o'r copa aeth y trên oddi ar y cledrau, mae'n debyg oherwydd iddo gael ei orlwytho. Wedi'r ddamwain hon, gosodwyd y system reilffordd rac a phiniwn llawer diogelach a'r system honno a ddefnyddir hyd heddiw.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Adnoddau Ar-lein