Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Coedydd Aber National Nature Reserve and Aber Falls;Rhaeadr-Fawr

Loading Map
NPRN409778
Cyfeirnod MapSH67SE
Cyfeirnod GridSH6683070040
Awdurdod Unedol (Lleol)Gwynedd
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedAber
Math O SafleGWARCHODFA NATUR
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Mae Rhaeadr Aber ym mhen draw Dyffryn Aber ddwy filltir i'r de o bentref bychan Abergwyngregyn. Mae cysylltiad annatod rhwng yr ardal hon a hanes Gwynedd ac roedd gan dywysogion Gwynedd lys yma yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Oherwydd ei leoliad yn agos at y briffordd drwy Ogledd Cymru a'r brif linell rheilffordd, ynghyd a harddwch naturiol eithriadol y dyffryn, mae llif cyson o ymwelwyr wedi ymweld a'r pentref a'i raeadr ers y cyfnod Rhamantaidd. Efallai mai'r disgrifiadau mwyaf hoffus o grwydradau i fyny'r dyffryn ac o'i gwmpas yw'r rhai a ysgrifennwyd yn y 1850au gan Julius Rodenberg, newyddiadurwr o'r Almaen. Fel mae teitl ei lyfr enwog, An Autumn in Wales, yn dangos, treuliodd Rodenberg hydref 1856 yn yr ardal a bu'n crwydro ar hyd a lled y fro gyda help y plant o fferm gyfagos lle'r arhosodd drwy gydol ei ymweliad. Yn ei farn ef, Rhaeadr Aber oedd yr harddaf iddo ei weld erioed, er na allai gymharu efallai a mawredd rhaeadrau llawer mwy a chyfoethocach.

Yn ei ddyddiau ef roedd yn rhaid i Rodenberg ddringo dros greigiau a cherdded llwybrau coediog i gyrraedd y rhaeadr, ond erbyn heddiw mae llwybr da iawn yn arwain at Raeadr Aber o faes parcio cyfagos.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.