Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Battle of Crogen, Glyn Ceiriog

Loading Map
NPRN410131
Cyfeirnod MapSJ23NE
Cyfeirnod GridSJ2560037900
Awdurdod Unedol (Lleol)Wrexham
Hen SirDenbighshire
CymunedGlyntraian
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Crybwyllir y frwydr bwysig hon yn fyr mewn sawl cronicl Saesnig (Latimer), ond y Brutiau sy?n darparu'r dystiolaeth orau ar gyfer ei lleoliad. Daeth Harri II a byddin enfawr i Groesoswallt, tra yr ymgasglodd rheolwyr y Cymry, Owain Gwynedd a?i frawd Cadwaladr, yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ac Owain Cyfeiliog a Iorwerth Goch of Powys, mewn enghraifft brin o undod, eu lluoedd yng Nghorwen:

'A gwedy trygyaw ynn hir yn y pebylleu yno hep arueidaw o un gyrchu y gilyd y ymlad, llidyaw a oruc y brenhin yn diruawr; a chyffroi y lu hyt yg koet Dyffryn Keiriawc, a pheri torri y coet a?e uurw y'r llawr. Ac yno yd ymerbynnyawd ac ef ynn wrawl ychydic o Gymry etholedigyon, y rei ny wydynt odef y goruot, ynn abssenn y tywyssogyon. A llawer o rei kadarnnaf a dygwydawd o bop tu. Ac yna y pebyllawd y brenhin, a'r bydinoed blaen y gyt ac ef, ymynyded Berwyn. Ac gwedy trigyaw yno ychydic o dydyeu, y kywarsagwyt ef o diruawr dymestyl awyr a thra llifeireint glawogyd. A gwedy pallu ymborth idaw yd ymhoelawd y bebylleu a?e lu y uaestir gwastatir Lloegyr' (Jones, 1955, 145-7).

Cyfieithiad: 'Ac wedi aros yn hir yn eu pebyll yno heb i'r un feiddio ymosod ar y llall, yr oedd y brenin yn ddig iawn; a symudodd ei luoedd i goedwig Dyffryn Ceiriog, gan dorri'r coed a?u dymchwel i'r llawr. Ac yno daeth ychydig o Gymry dewisol, na wyddai beth oedd cael eu trechu, ar ei draws yn absenoldeb eu harweinwyr. A chwympodd llawer o'r dewrion ar bob ochr. Ac yna gwersyllodd y brenin, a'r lluoedd a oedd ar y blaen, ar Fynyddoedd y Berwyn. Ac wedi iddo aros yno ychydig ddyddiau, fe?i gorthrymwyd gan dymestl enfawr o wynt a glaw eithriadol iawn. A phan aeth ei nwyddau?n brin, tynnodd ei bebyll a?i luoedd yn ol i'r tir agored ar wastadeddau Lloegr' (Jones, 1955, 145-7).

Mae'r ffynonellau Seisnig yn cyfeirio at y digwyddiad yn digwydd ym mynyddoedd y Berwyn, ond nid oes yr un ohonynt yn nodi'r lleoliad mwy penodol, Coed Ceiriog, sef yr enw a ddefnyddir hefyd yng nghronicl Gwynedd O Oes Gwrtheryn (Jones, 2013, 418). Mae Humphrey Lhwyd yn ei Cronica Walliae (1559) yn rhoi adroddiad ychydig yn helaethach, ond mae David Powel, a ddefnyddiodd destun Lhwyd fel sail i?w waith argraffiedig, wedi achosi peth dryswch ynghylch y digwyddiad (Powel, 221-2). Aeth `Cymry dethol? (`picked Welshmen?) Brutiau yn `bicellwyr? (`piked men?) byddin Harri ac mae hefyd yn ychwanegu darn, o Holinshed's Chronicle (1577), am Harri II yn destun ymosodiad ac yn cael ei achub gan Hubert de St Clare (Powel, 222). Daw'r darn hwn yn wreiddiol o gronicl Ralph Niger ac mae?n cyfeirio at ddigwyddiadau yn Bridgnorth, nid yn nyffryn Ceiriog.

Yr awdur cynharaf i gyfeirio at y digwyddiad hwn fel brwydr Crogen oedd Thomas Pennant yn 1778:

'This conflict is sometimes called the battle of Corwen; but with more propriety that of Crogen: for it happened beneath Castell Crogen, the present Chirk Castle; and the place is still called Adwy'r Beddau, or the pass of the graves of the men who were slain here' (Pennant, vol 1, 268).

Cyfieithiad: 'Weithiau gelwir y gwrthdaro hwn yn frwydr Corwen; ond yn gywirach brwydr Crogen: oherwydd digwyddodd islaw Castell Crogen, sef Castell y Waun erbyn hyn; a gelwir y lle o hyd yn Adwy'r Beddau, neu fwlch beddau'r gwyr a laddwyd yma' (Pennant, vol 1, 268).

Mae hyn yn dibynnu ar adnabod Castell y Waun fel Castell Crogen, ond ni chefnogir hyn gan ddogfennau canoloesol (Carr, 190); maent yn ei osod yn yn mwnt yng Nghrogen, yn Llandderfel, ger y Bala (SJ 0060 3699). Bodolaeth enwau lleoedd yn cynnwys Crogen yng nghyffiniau castell y Waun a arweiniodd at dybiaeth Pennant mae?n debyg. Yn dilyn Pennant, mae Crogen wedi ei dderbyn yn eang fel enw'r frwydr ac mae plac i goffau'r digwyddiad wedi ei osod ar Bont Melin y Castell ger y Waun (SJ 2637 3757; NPRN 310228).

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn lleoli'r digwyddiad rywle yn nyffryn Ceiriog, rhwng y Waun a Llanarmon Dyffyrn Ceiriog, ond nid oes modd bod yn fwy manwl na hyn.

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth:
Carr, A.D.,?The Barons of Edeyrnion 1282-1485?, Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 4/3 (1963), 187-93.
Jones, Owain Wyn, `Historical writing in medieval Wales? (Bangor University, PhD thesis, 2013).
Jones, Thomas (ed. and trans), Brut y Tywysogyon or the Chronicle of the Princes: Red Book of Hergest Version (Cardiff, University of Wales Press, 1955).
Latimer, Paul, `Henry II's campaign against the Welsh in 1165?, Welsh History Review, 14/4 (1989), 523-44.
Pennant, Thomas, A Tour in Wales MDCCLXXIII (London, 1778).
Powel, David, The Historie of Cambria, now called Wales (London, 1584).
Williams, Ieuan M. (ed.), Humphrey Llwyd Cronica Walliae (Cardiff, University of Wales Press, 2002).