Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Castell Caerffili

Loading Map
NPRN94497
Cyfeirnod MapST18NE
Cyfeirnod GridST1552787068
Awdurdod Unedol (Lleol)Caerphilly
Hen SirGlamorgan
CymunedCaerphilly
Math O SafleCASTELL
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Gyda dau lyn o'i amgylch, Castell Caerffili yw'r safle castell mwyaf yng Nghymru a'r enghraifft gynharaf o gastell Normanaidd o gynllun consentrig ym Mhrydain.

Er i'r Rhufeiniaid adeiladu caer atodol yma mor gynnar a 75 OC, cafodd ei gadael drachefn erbyn yr ail ganrif ac, am y mil o flynyddoedd nesaf, arhosodd y safle a'r ardal gyfagos yn denau eu poblogaeth. Yn 1268 gorchmynnodd Gilbert de Clare, Arglwydd Normanaidd Morgannwg, adeiladu'r castell carreg enfawr yno. Dros y tri degawd nesaf, adeiladwyd y castell consentrig a chreu'r llynnoedd ond, gyda marwolaeth Syr Gilbert yn 1295, daeth yr adeiladu i ben bron yn llwyr. Am gyfnod byr yn 1326 daeth y castell i amlygrwydd wrth i Edward II, brenin Lloegr, geisio nodded yno rhag ei wraig, Y Frenhines Isabella, yr oedd wedi gwahanu oddi wrthi, a'i phartner, Roger de Mortimer. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, aeth y castell i ddwylo Richard Beauchamp, Iarll Caerwrangon, ond cafodd ei adael a dechrau dadfeilio gan iddo ef wneud Castell Caerdydd yn brif gartref iddo. Yn ystod y canrifoedd dilynol, cyflymodd dirywiad y castell wrth i'r llynnoedd gael eu sychu a chario cerrig o'r safle i adnewyddu t? Thomas Lewis gerllaw.

Yn y cyfnod Rhamantaidd, Caerffili'n aml oedd y castell adfeiliedig cyntaf y byddai twristiaid yn dod ar ei draws wrth iddynt gyrraedd Cymru gan ei fod mor agos i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Roedd maint ac arwynebedd y castell yn atgoffa llawer o deithwyr, megis y barwn Gottfried von Purgstall o Awstria, o adfeilion Abaty Tyndyrn gerllaw. Fodd bynnag, yn wahanol i'w gefnder cysegredig ymhellach i'r dwyrain a'r rhan fwyaf o gestyll adfeiliedig eraill ar hyd a lled Cymru, nid oedd Castell Caerffili wedi'i orchuddio ag eiddew a thyfiant gwyrdd.

Er 1844, blwyddyn ymweliad siomedig Carl Carus a'r adfeilion - a oedd yn fwy anghyfannedd na hardd yn ei farn ef - mae gwaith cadwraeth ac adfer helaeth wedi'i wneud ar y safle. Cafodd y llynnoedd eu hadfer, mae muriau a ddymchwelodd wedi cael eu codi ac mae'r Neuadd Fawr wedi cael ei hadfer. Yn ffodus i dwristiaid heddiw, mae nodwedd amlycaf y castell, sef y twr cam mawr, heb ei gyffwrdd gan y canfuwyd ei fod yn ddigon sefydlog i wrthsefyll grym disgyrchiant.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesDigital report from an archaeological field evaluation of the Great Hall, Caerphilly Castle, carried out by Archaeology Wales, January 2020.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesPDF report from an archaeological trenched evaluation and watching brief of Caerphilly Castle Moat Banks, carried out by Archaeology Wales on behalf of Cadw.
application/pdfBMA - Black Mountains Archaeology CollectionReport on an Heritage Impact Assessment for Caerphilly Castle Maze and Dragon’s Lair, carried out by Black Mountains Archaeology in 2018. Report No. 128.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Caerphilly Castle by Carl Gustav Carus from 'England und Schottland im Jahre 1844' (1844). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel entitled Morgannwg: Y Cestyll Diweddarach. Glamorgan: Later Castles, produced by RCAHMW, 2009.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesPDF report from an archaeological watching brief of Caerphilly Castle Moat Banks, carried out by Archaeology Wales on behalf of Cadw.