![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
|
|
|||||
![]() |
|||||
|
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) – y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae Coflein yn cynnwys manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru ynghyd â mynegai i’r lluniadau, y llawysgrifau a’r ffotograffau yng nghasgliadau archifol CHCC. Gellir dangos y safleoedd ar fapiau’r Arolwg Ordnans a’u harchebu’n ddaearyddol yn ogystal â thrwy gwestiynau testun. Gellir chwilio’r data yn ôl lleoliad (enw lle, ardal neu ddalen map 1:10,000 yr Arolwg Ordnans), math (dosbarthiad neu swyddogaeth safle, heneb neu adeilad) neu allweddair. Mae COFLEIN yn rhad ac am ddim. |
|||||
![]() |
|||||
|
Rhaid i chi roi gwybodaeth mewn un, o leiaf, o’r meysydd. Llenwch y meysydd yr ydych yn sicr ohonynt – er nad oes rhaid i chi lenwi pob maes, gallwch gwtogi ar yr amser chwilio drwy fanylu ar y meini prawf, yn enwedig drwy ddewis lleoliad o blith y rhestri dewis, sef CYMUNED, CYNGOR neu HEN SIR. Os nad yw’ch chwiliad yn llwyddiannus, rhowch gynnig ar sillafiadau gwahanol ac arbrofwch gyda gwahanol ddulliau o holi i weld p’un sy’n gweithio orau ar gyfer eich ymchwil chi. Er enghraifft, os llenwch chi faes ENW (NAME) yn unig, ac os cewch chi res hir o ganlyniadau, rhowch enw’r lleoliad i mewn. Cofiwch fod y broses gyfrifiaduro’n dal i fynd rhagddi ac nad yw gwybodaeth am rai ardaloedd ar gael eto. Cewch roi priflythrennau neu lythrennau bach ym mhob maes. |
|||||
| Enw’r safle
neu’r
adeilad: Wrth roi cyfeiriad, defnyddiwch y patrwm hwn: stryd, rhif, enw’r ddinas/tref/pentref. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Math o safle
neu
adeilad: rhowch enw’r math o le, neu ddosbarth y lle, sydd o ddiddordeb. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Dosbarth bras: dewiswch y dosbarth bras o heneb yr ydych chi’n chwilio amdani.. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Cyfnod: dewiswch gyfnod yr heneb yr ydych chi’n chwilio amdani. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Taflen map
1:10000 yr
AO: os nad ydych chi’n gyfarwydd â chyfeirnodau dalennau map yr Arolwg Ordnans, defnyddiwch gyfleuster chwilio map Coflein. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Awdurdod
Unedol: dewiswch yr Awdurdod Unedol o’r rhestr. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Hen Sir: dewiswch yr Hen Sir o’r rhestr. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Cymuned: dewiswch y Gymuned o’r rhestr. |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Allweddeiriau: Mae’r maes hwn yn fodd i chwilio’r holl wybodaeth destunol sy’n gysylltiedig â safle, ar wahân i faes yr ENW (NAME). Sylwch nad oes modd chwilio yn ôl blwyddyn neu gyfnod. Enghreifftiau: Daw Tomen
Beili - - o hyd i
bob cofnod lle ceir Tomen a Beili gyda’i gilydd |
|||||
| er enghraifft: neu | |||||
| Ar ôl i chi lenwi’r meysydd perthnasol, cliciwch ar y botwm hwn i weithredu’r cwestiwn.. | |||||
| Bydd clicio ar y botwm hwn yn clirio’r holl feysydd. | |||||
![]() |
|||||
| Y nifer fwyaf o ganlyniadau a ddangosir yr un pryd yw 500. | |||||
Drwy glicio
ar y
botwm hwn cewch ffenestr newydd ac arni fap o leoliad y safle neu’r
adeilad a
ddewiswyd. |
|||||
![]() |
|||||
|
Mae’r cyfleuster map yn fodd i chwilio ardal ddaearyddol, a dangosir y canlyniadau ar gefndir map. I ddefnyddio’r cyfleuster chwilio map, dilynwch y cysylltau o dudalen mewngofnodi COFLEIN. Mae modd cyrchu cyfarwyddiadau manwl ynghylch defnyddio’r map chwilio yn uniongyrchol o sgrin y map ar unrhyw adeg. |
|||||
![]() |
|||||
|
Mae’n werth nodi y caiff gwybodaeth ei hychwanegu at y gronfa ddata’n ddyddiol. Os na fu’ch chwiliad yn llwyddiannus, holwch ni rhag bod gennym wybodaeth sydd heb ei chynnwys eto. Ac os yw’ch chwiliad o COFLEIN wedi bod yn llwyddiannus, hoffem eich annog i fynd ymhellach ar drywydd eich ymholiadau. Ymwelwch â
llyfrgell CHCC: Cofnod Henebion
Cenedlaethol Cymru, Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth, |
|||||
![]() |
![]() |
||||
![]() |