Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Abermaw

Loading Map
NPRN33152
Cyfeirnod MapSH61NW
Cyfeirnod GridSH6123015820
Awdurdod Unedol (Lleol)Gwynedd
Hen SirMerioneth
CymunedBarmouth
Math O SafleTREF
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Fel mae ei henw'n tystio, saif Abermaw wrth aber yr afon Mawddach. Mewn arolwg yn 1565 cofnodwyd mai pentref bach o bedwar t? oedd yno, ac nid oes fawr yn hysbys am y dref cyn y ddeunawfed ganrif. Wrth i longau arfordirol gynyddu yn niwedd y ddeunawfed ganrif, datblygodd Abermaw yn ganolfan adeiladu llongau, gyda'r harbwr yn cynnal diwydiant pysgota ac allforio gwlan o ffermydd defaid Meirionnydd. Er gwaethaf ei hamgylchedd hardd, dim ond yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg y datblygodd yr isadeiledd ar gyfer ymdrochi mor yno.

Gyda dyfodiad Rheilffordd y Great Western o'r Amwythig i ddechrau, ac yn ddiweddarach Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru o'r de, dechreuodd mwy a mwy o dwristiaid gyrraedd, gan ei gwneud yn angenrheidiol i'r dref ehangu. Oherwydd bod y clogwyni uchel mor agos i'r arfordir, adeiladwyd y tai gwyliau newydd ar derasau'n codi yn erbyn y creigiau. Dywedai twristiaid yn aml ei bod yn bosibl edrych o'r tai uchaf i lawr simneiau'r tai yn y strydoedd o danynt. Yn wahanol i drefi glan mor poblogaidd eraill yng Nghymru, ni wnaeth Abermaw erioed ddatblygu pensaerniaeth amlwg y cyrchfannau hynny, ond cadwodd ei hapel i rai a oedd eisiau profiad syml a phictiwresg.

Yn ystod un swae arbennig o gyfareddol ar hyd y traeth yng ngolau'r lleuad yn y 1880au, bu'r ymwelydd o'r Almaen, Johann Jakob Honegger, yn dyst i rywbeth prin iawn, sef gweld mor llaethog yn hemisffer y gogledd.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Barmouth by Friedrich Althaus from 'Sommerbilder aus England und Wales' (1889). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.