Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Chwarel y Penrhyn

Loading Map
NPRN40564
Cyfeirnod MapSH66NW
Cyfeirnod GridSH6210065000
Awdurdod Unedol (Lleol)Gwynedd
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedLlandygai
Math O SafleCHWAREL LECHI
Cyfnod21ain Ganrif
Disgrifiad
Dechreuwyd y diwydiant llechi ar raddfa fawr yn Chwarel y Penrhyn yn 1770 dan berchenogaeth Richard Pennant, a oedd wedi etifeddu ystad y Penrhyn drwy ei wraig, Ann Warburton. Dros y ganrif nesaf, datblygodd i fod yn chwarel lechi fwya'r byd, gan gyflogi tua 3,000 o bobl ac roedd ei phrif geudwll bron i filltir o hyd. Gosodwyd rheilffordd o'r chwarel i Borth Penrhyn ar gyrion Bangor i hwyluso cludo'r llechi a oedd yn cael eu hallforio i bedwar ban byd. Oherwydd eu hansawdd uchel ac amrywiaeth eu lliwiau, roedd llechi Cymreig yn cael eu hystyried y deunydd toi gorau a oedd ar gael. Defnyddiwyd y llechfaen hefyd fel deunydd ffensio ac adeiladu a cherrig llorio, ac i wneud dodrefn cadarn a cherrig beddau addurnedig.

Roedd yr amodau gwaith yn y chwareli'n eithriadol beryglus gan fod y chwarelwyr yn hongian ar raffau ar wyneb y graig wrth ei thyllu ac yn defnyddio ffrwydron i ryddhau talpiau mawr o gerrig. Hyd yn oed os na fyddent yn colli aelodau neu hyd yn oed eu bywydau, roedd llawer o'r chwarelwyr yn datblygu clefyd y llwch (silicosis), wrth i ronynnau bychain o lwch o hollti llechi aros yn eu hysgyfaint.

Oherwydd yr amodau gwaith caled a'r cyflogau eithriadol isel a delid i'r chwarelwyr, gwelodd Chwarel y Penrhyn nifer o streiciau at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan barhau o 1900 tan 1903, y Streic Fawr oedd yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Amcangyfrifir iddi effeithio ar bron i chwarter poblogaeth Gogledd Cymru. Wedi tair blynedd o wrthsefyll, daeth adnoddau'r chwarelwyr i ben ac fe'u gorfodwyd i ddychwelyd i'r gwaith ar gyflogau llawer is. Yn sgil y streic, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y galw am lechi Gogledd Cymru. Ers hynny mae cynhyrchu llechi wedi edwino'n raddol.

Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd maint enfawr Chwarel y Penrhyn a'i miloedd gweithwyr yn tynnu nifer fawr o dwristiaid yno. Roedd cael mynd am reid mewn wagenni llechi agored yn rhuthro i lawr yr incleiniau ar gyflymder mawr yn dipyn o hwyl a sbri i ymwelwyr Fictoraidd. Erbyn heddiw diflannodd y wagenni agored, ond mae twristiaid yn dal i chwyrlio dros y ceudwll agored yn sownd wrth wifrau'r atyniad diweddaraf.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveGwynedd Archaeological Trust report entitled 'Penrhyn Quarry, Bethesda: Soil Strip - Archaeological Watching Brief' by Stuart Reilly on behalf of Welsh Slate, November 2017. Project No. G2541, Report No. 1410.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to walkover survey, project no. G2556, 'Penrhyn Quarry,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust, 2018.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to archaeological watching brief, project no. G2541, 'Penrhyn Quarry, Bethesda: Soil Strip,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust, November 2017.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to the digital photographs associated with project no. G2541, 'Penrhyn Quarry, Bethesda: Soil Strip,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust. Form compiled 15th December 2017.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to the final watching brief report text associated with project no. G2541, 'Penrhyn Quarry, Bethesda: Soil Strip,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust. Form compiled 15th December 2017.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to the full watching brief report with appendices for project no. G2541, 'Penrhyn Quarry, Bethesda: Soil Strip,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust. Form compiled 15th December 2017.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel showing Penrhyn Slate Quarry, produced by RCAHMW for the Royal Welsh Show, 2011.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Penrhyn Quarry by C. Larivi?re from 'Notes d'un voyage aux ardoisi?res du Pays de Galles' (c.1880). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel entitled Y Diwydiant Llechi. The Slate Industry, produced by RCAHMW for the Royal Welsh Show, 2011.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to the digital photograph metadata associated with project no. G2541, 'Penrhyn Quarry, Bethesda: Soil Strip,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust. Form compiled 15th December 2017.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to digital photographs taken during walkover survey, project no. G2556, 'Penrhyn Quarry,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust, 2018.
application/vnd.ms-excelGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveExcel document recording details of archive deposition relating to digital photograph metadata for walkover survey, project no. G2556, 'Penrhyn Quarry,' conducted by Gwynedd Archaeological Trust, 2018.