Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Conwy Suspension Bridge;Conwy Bridge;Telford Suspension Bridge, Former A55, Conwy

Loading Map
NPRN43083
Cyfeirnod MapSH77NE
Cyfeirnod GridSH7849777494
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedConwy
Math O SaflePONT GROG
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Mae pont grog Thomas Telford, a adeiladwyd rhwng 1822 a 1826 i fynd a ffordd Caer - Caergybi dros afon Conwy, yn un o'r rhai hynaf o'i bath sy'n dal mewn bodolaeth. Mae'r bont yn 99.5m o hyd, gyda dec y ffordd yn crogi ar ddwy set o bedair cadwyn sy'n ymestyn o ddau d'r castellog. Wrth gynllunio ei bont, talodd Thomas Telford sylw arbennig i Gastell Conwy a muriau'r dref gerllaw fel y byddai'r bont fodern yn ymdoddi a'r bensaerniaeth Normanaidd sydd mor amlwg yno. Mae porthdy un ystafell ceidwad y bont yn efelychu arddull Normanaidd y castell yn yr un modd. Cyn caniatau i bobl groesi, byddai'r ceidwad hwn yn codi toll arnynt. Codid gwahanol brisiau am groesi ar droed, ar gefn ceffyl neu mewn coets fawr. Yn 1896 gosodwyd dec haearn yn lle'r un pren gwreiddiol, ac yn 1904 ychwanegwyd llwybr i gerddwyr ar ochr ogleddol y bont.

Bu'r bont yn cario cerbydau tan 1958, pan adeiladwyd pont newydd wrth ei hochr, ac ers hynny dim ond cerddwyr sy'n cael mynd dros y bont grog. Daeth dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1965 ac yn 1981 cafodd bwthyn y ceidwad ei restru'n adeilad Gradd I gan Cadw.

Wrth iddo deithio drwy Gymru yn fuan ar ol i'r bont grog gael ei chwblhau, fe wnaeth ei chynllun cain atgoffa'r awdur Ffrengig, Basil-Joseph Ducos, o rwydi pysgod wedi'u hongian i fyny i sychu yn y gwynt a theimlai ei fod yn cael ei gludo i fyd hud a lledrith.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Conwy Suspension Bridge by Arthur d'Arcis from 'Voyage au nord du pays de Galles' (c.1866). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/mswordETW - European Travellers to Wales ProjectArchive coversheet relating to the Conwy Suspension Bridge gigapan project, carried out by Sue Fielding and Rita Singer, July 2017.